Llyfr y Flwyddyn 2025

Enillydd
Cymraeg

Camu
Iola Ynyr

Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i’r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch.

Enillydd
Saesneg

Clear
Carys Davies

On a remote Scottish island, Ivar, the sole occupant, leads a life of quiet isolation until the day he finds a man unconscious on the beach below the cliffs. The newcomer is John Ferguson, an impoverished church minister sent to evict Ivar and turn the island into grazing land for sheep. Unaware of the stranger’s intentions, Ivar takes him into his home, and in spite of the two men having no common language, a fragile bond begins to form between them. Meanwhile on the mainland, John’s wife Mary anxiously awaits news of his mission. Against the rugged backdrop of this faraway spot beyond Shetland, Carys Davies’s intimate drama unfolds with tension and tenderness: a touching and crystalline study of ordinary people buffeted by history and a powerful exploration of the distances and connections between us.

Enillydd
Barn y Bobl Golwg 360

V + Fo
Gwenno Gwilym

Stori ramant unigryw sydd yn delio gyda’r cymhlethdodau sydd yn datblygu wrth i gwpl ifanc wahanu a thrio magu plant. Dyma ffuglen sydd yn torri tir newydd gan gynnig darlun realistig o fywyd teulu mewn cartref yn llawn rhyfeddodau ieithyddol. Nofel gan awdur newydd sydd yn cynnig cipolwg ar Gymru gyfoes heb ffilter! Anaddas i blant.

Enillydd
Barn y Bobl Nation.Cymru

Girls Etc
Rhian Elizabeth

Mae cerddi Rhian Elizabeth yn egnïol, wedi’u cyweirio’n gain ac yn berchen ar iaith reddfol. Ysgrifenna’r bardd am brofiadau personol gyda dwyster a llymder sy’n eich herio i edrych yn fanylach. Mae’r gyfrol yn adlewyrchu beiddgarwch, prydferthwch a breuder, sy’n adleisio yn y cof wedi’r darlleniad

Barddoniaeth
Enillydd

Rhuo ei Distawrwydd
Meleri Davies

Tair cenhedlaeth o fenywod yr un teulu yw asgwrn cefn Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Meleri Davies, a gyhoeddir fis Tachwedd 2024. Mae galar a gorfoledd bod yn fenyw, yn ferch ac yn fam yn cordeddu drwy’r cerddi, sydd weithiau’n gynnil-ymatalgar a thro arall yn ffrwydrol. Dysgwch fwy am y casgliad yma

Ffeithiol Greadigol
Enillydd

Camu
Iola Ynyr

Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i’r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch.

Ffuglen
Enillydd

V + Fo
Gwenno Gwilym

Stori ramant unigryw sydd yn delio gyda’r cymhlethdodau sydd yn datblygu wrth i gwpl ifanc wahanu a thrio magu plant. Dyma ffuglen sydd yn torri tir newydd gan gynnig darlun realistig o fywyd teulu mewn cartref yn llawn rhyfeddodau ieithyddol. Nofel gan awdur newydd sydd yn cynnig cipolwg ar Gymru gyfoes heb ffilter! Anaddas i blant.

Plant a Phobl Ifanc
Enillydd

Arwana Swtan a’r Sgodyn Od
Angie Roberts a Dyfan Roberts

Dyma nofel fer a doniol dros ben gan awdur sy’n gwybod sut i ddiddori a phlesio plant. Mae pethau’n ddiflas iawn yng Nghaernarfon pan mae Arwana Swtan yn cyrraedd yno yng nghanol storm fawr i aros efo’i thaid, Taidi. Ond diolch i’r fôr-forwyn hynod honno, Swigi Dwgong, daw tro ar fyd i’r dre a’i phobol. Stori gyflym, glyfar a llawn hiwmor.

Saesneg

Barddoniaeth / Poetry
Enillydd

Girls etc
Rhian Elizabeth

Mae cerddi Rhian Elizabeth yn egnïol, wedi’u cyweirio’n gain ac yn berchen ar iaith reddfol. Ysgrifenna’r bardd am brofiadau personol gyda dwyster a llymder sy’n eich herio i edrych yn fanylach. Mae’r gyfrol yn adlewyrchu beiddgarwch, prydferthwch a breuder, sy’n adleisio yn y cof wedi’r darlleniad.

Ffeithiol Greadigol / Creative Non Fiction
Enillydd

Nightshade Mother
Gwyneth Lewis

Yn yr hunangofiant hynod hwn, mae Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, yn cofnodi magwraeth druenus gyda mam orthrymus.

Buy

Ffuglen / Fiction Rhys Davies Trust
Enillydd

Clear
Carys Davies

On a remote Scottish island, Ivar, the sole occupant, leads a life of quiet isolation until the day he finds a man unconscious on the beach below the cliffs. The newcomer is John Ferguson, an impoverished church minister sent to evict Ivar and turn the island into grazing land for sheep. Unaware of the stranger’s intentions, Ivar takes him into his home, and in spite of the two men having no common language, a fragile bond begins to form between them. Meanwhile on the mainland, John’s wife Mary anxiously awaits news of his mission. Against the rugged backdrop of this faraway spot beyond Shetland, Carys Davies’s intimate drama unfolds with tension and tenderness: a touching and crystalline study of ordinary people buffeted by history and a powerful exploration of the distances and connections between us.

Plant a Phobl Ifanc
Enillydd

A History of my Weird
Chloe Heuch

Mae dechrau ysgol uwchradd yn her i unrhyw blentyn, ond trwy lygaid Miri ceir mewnwelediad i’r sialensau ychwanegol gall wynebu plentyn niwrowahanol. Yn ystod gwersi, caiff nodweddion awtistaidd fel stimio a rhannu gwybodaeth am ei diddordeb arbennig eu dehongli fel camymddygiad gan rai o’i athrawon, sy’n dewis anfon Miri o’r ystafell ddosbarth yn hytrach na chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arni fel disgybl gydag awtistiaeth.