Herio Hiliaeth

Wrth glywed am a gwylio digwyddiadau erchyll yn America (unwaith eto), dyma feddwl, pa lyfrau sy yn y siop yn ymwneud â hiliaeth… oes ‘na ddewis yno, ta ydw innau’n euog o anwybyddu hiliaeth yn ein cymdeithas heddiw? Sgan sydyn ar y silffoedd, a gweld bod gennym ddewis o lyfrau gan awduron o bob rhan o’r byd, sydd yn, gobeithio, dathlu amrywiaeth, herio hiliaeth, ac yn cynnig cyfle i ni gyd ddysgu mwy… dyma dwsin o lyfrau i blant ac oedolion, yn ffuglen a ffaith, yn Gymraeg a Saesneg i roi blas o rhai pethau sy gennym….