Y Gelfyddyd Gymodlawn

£19.99

Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â gwaith T. Gwynn Jones (1871-1949), un o brif feirdd Cymraeg yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio’n benodol ar berthynas ei waith â cherddoriaeth. Roedd T. Gwynn Jones yn fardd dylanwadol a thoreithiog, a derbyniodd gryn sylw beirniadol a bywgraffyddol – ond dyma’r drafodaeth gyntaf ar ei waith mewn cyd-destun cerddorol. Fel yr astudiaeth gyntaf o’i math ym maes llenyddiaeth Gymraeg, mae’r llyfr yn gyflwyniad cyffrous i astudiaethau cerddo-lenyddol. Mae’n craffu ar ddylanwad cerddoriaeth ar waith T. Gwynn Jones: cefndir cerddorol rhai o gerddi Caniadau; y rhai cannoedd o gyfieithiadau o eiriau caneuon; ymwneud y bardd â cherddoriaeth draddodiadol; a’r cydweithio helaeth fu rhyngddo a W. S. Gwynn Williams, sylfaenydd Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Mae’r gyfrol yn ymdrin â thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, ac yn cynnig gwedd gwbl newydd ar waith bardd cyfarwydd.

2 mewn stoc

SKU: 9781837723324 Categori: Tagiau: , , , , , , , Brand: ,

Disgrifiad

Author Elen Ifan Published by Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9781837723324 EAN 9781837723324 Bic Code DSC|DSK Cover Paperback

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Y Gelfyddyd Gymodlawn”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Ychwanegu at y fasged