Lon Wen, Y

£7.50

Darn o hunangofiant awdur a faged yn un o ardaloedd chwarel bychain Dyffryn Nantlle yn nhro’r ganrif ddiwethaf mewn cyfnod llwm yn y diwydiant llechi. Mae’r hanes yn dangos adwaith plentyn synhwyrus a theimladwy i amgylchiadau bywyd y cyfnod, ar yr aelwyd, yn y capel ac yn y gymdeithas o deuluoedd y tu allan. Trwy ddarluniau a hanesion gellir gweld yn glir yr argraff a wnaeth y pethau hyn ar yr awdur, a sut y cynhyrfwyd hi i droi ei phrofiadau yn storïau.
Er gwaethaf yr amgylchiadau caled, mae ffrwd o hapusrwydd yn rhedeg drwy’r cyfan, ac ar y diwedd gall yr awdur edrych yn ôl ar ei phlentyndod gyda hyfrydwch ac nid gyda digofaint. At hyn oll, mae’r llyfr yn ddogfen bwysig o hanes cymdeithasol mewn cyfnod arbennig.

1 mewn stoc

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Lon Wen, Y”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Ychwanegu at y fasged