Griffith Davies

£16.99

Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788-1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ?l blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.

1 mewn stoc

Disgrifiad

Author Haydn E. Edwards Published by Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9781837720316 EAN 9781837720316 Bic Code PBX|DNB|DNBT Cover Paperback

Gwybodaeth Ychwanegol

Pwysau 362 g

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Griffith Davies”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Ychwanegu at y fasged