• Camau Bach

    Palas Print 10 Stryd Y Plas Gwynedd, Caernarfon, United Kingdom

      Dewch i fwynhau noson yng nghwmni Luned Aaron wrth i ni ddathlu ei nofel ddiweddar Camau Bach ‘Perl o nofel graff sy’n pefrio o ffraethineb, doethineb a gwirionedd ar bob tudalen’ Megan Angharad Hunter

  • Y Dychryn Angenrheidiol

      i ddathlu cyhoeddi Y Dychryn Angenrheidiol The Necessary Terror Gan Aled Jones Williams efo Gareth Evans Jones Casgliad dwyieithog o gerddi bach enigmatig sy’n arbrofion mewn ffydd sy’n addas ar gyfer y ganrif hon. Aled Jones Williams is a distinctive poetic voice in contemporary Wales & this volume of enigmatic poems introduces his work […]

  • Ar y Gweill

    Palas Print 10 Stryd Y Plas Gwynedd, Caernarfon, United Kingdom

    Clwb Gweu a Chrosio cyfeillgar. Dewch â'ch gweu / croshio efo chi ac ymunwch yn y sgyrsiau dros baned.

  • Panad a Sgwrs

    Palas Print 10 Stryd Y Plas Gwynedd, Caernarfon, United Kingdom

    Cyfle i ddysgwyr sydd eisiau ymarfer siarad y Gymraeg i ddod at ei gilydd am sgwrs dros baned Nabod rhywun sy'n dysgu Cymraeg ac sydd eisiau cyfle i ymarfer? Mae'r grwp yma'n groesawgar iawn ac yn gefnogol iawn i ddysgwyr sydd eisiau magu hyder.

  • Prosser Rhys yng Nghaernarfon

    Ychydig yn llai na dwy flynedd a dreuliodd Prosser Rhys yng Nghaernarfon, ond roeddent yn ddwy flynedd ffurfiannol ac arwyddocaol fyddai’n effeithio arno weddill ei oes. I gyd-fynd â chyhoeddi Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni, cyfrol ffeithiol-greadigol ddadlennol sy’n mynd ar drywydd ‘Atgof’, pryddest goronog chwyldroadol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, bydd Iestyn Tyne yn […]