Y Gosb

£1.00

When Erin is raped, she is determined to find the rapist and punish him, but she makes one mistake, and Detective Gareth Prior and his team have to investigate. A short and exciting detective novel. Written for the Quick Reads literacy scheme.

1 mewn stoc

SKU: 9781784612474 Categori: Tag: Brand:

Disgrifiad

Mewn dyddiau digidol sy’n prysur droi yn ddiwrnodau di-lyfr mae hi’n fwy o gamp nag erioed i gael pobl i ddarllen. Sut, felly, mae sicrhau fod pobl yn troi at lyfrau? Un syniad campus, wrth gwrs, yw cyfres Stori Sydyn, sef cyfres o lyfrau byr, rhyw gan tudalen o hyd, y gellir eu darllen mewn dim o dro. Ar ben hynny, mae modd prynu’r cyfrolau am y nesaf peth i ddim. Nofel fer yw Y Gosb. Bydd y rhai ohonoch sy'n gyfarwydd ? gwaith Geraint Evans yn gwybod am ei ddawn i greu straeon ditectif gafaelgar, a pherthyn i’r genre poblogaidd hwnnw y mae’r stori hon. Hanes Erin a geir yma a’i hymdrechion i ddial ar y sawl a ymosododd arni. Cryfder y stori yw ei bod yn ein cymell i'w darllen yn ein blaenau – sef union bwrpas y gyfres hon, wrth gwrs. Mae’r stori’n gwibio yn ei blaen gan greu ysfa chwilfrydig i weld beth yn union sy’n digwydd. Synhwyrir bod yna dro ar ddiwedd y stori, ond mae’r tro hwnnw, pan ddaw, yn annisgwyl a chyffrous, a dyna gamp awdur nofelau ditectif da. Ni cheir yma lawer iawn o ddadansoddi nac ymdriniaeth o effaith yr amrywiol brofiadau cas ar Erin, ond nid dyma bwrpas y stori, a byddai gwneud hyn mewn cyfrol fer yn anodd, heb iddo arafu llif y naratif. I’r darllenydd cyson dyma gyfrol ddiddorol i lenwi awr go dda ond i’r sawl nad yw'n gyfarwydd ? throi at nofelau Cymraeg, dyma stori hwylus i’w darllen. Gallai’r plot, mae’n siwr, fod yn fwy cymhleth ac amlhaenog, ond cofier nad creu rhyw Trapped o nofel yw’r bwriad. Beth am brynu'r gyfrol, a llyfrau eraill cyfres Stori Sydyn, i ffrindiau a chydnabod a fydd yn elwa o’u darllen a'u mwynhau?
Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com

Gwybodaeth Ychwanegol

Pwysau 116 g

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Y Gosb”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Ychwanegu at y fasged