Ynysoedd Gobaith

£19.99

‘Ynysoedd Gobaith’ oedd diffiniad yr heddychwr mawr George M. Ll. Davies o’r mentrau a chymunedau iwtopaidd amrywiol y bu’n rhan ohonynt yng Nghymru’r ugeinfed ganrif. Bwriad y gyfrol hon, y gyntaf yn y Gymraeg ym maes astudiaethau iwtopaidd, yw amlygu a dadansoddi pwysigrwydd mentrau o’r fath, o’r mudiad gardd bentrefi yn y 1910au, i arbrofion cymdeithasol y Crynwyr yng nghymoedd de Cymru rhwng y rhyfeloedd byd, a chomiwnau’r hipis yn y 1970au. Canolbwyntir ar bedair brif thema – tai a chynllunio trefol; gwaith, hamdden a diweithdra; cyfiawnder troseddol a charchardai; heddwch a didreisedd – wrth ymdrin â’r mentrau hyn, er mwyn tanlinellu eu perthnasedd cyfoes fel ffynhonnell nid yn unig o obaith ond hefyd o syniadau a dulliau ymarferol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac ecolegol ein hoes.

14 mewn stoc

SKU: 9781837723195 Categori: Tagiau: , , , , , , , Brand: ,

Disgrifiad

Author Llion Wigley Published by Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9781837723195 EAN 9781837723195 Bic Code NHTB Cover Paperback

Adolygiadau

Nid oes adolygiadau eto.

Be the first to review “Ynysoedd Gobaith”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Ychwanegu at y fasged