Stori Sydyn: Arwyr Cymru

£1.00

A volume presenting stories about 13 Welsh heroes and heroic movements, both the well-known and the not so well-known: Betsi Cadwaladr, Dic Penderyn, Griffith Jones, Gwenllian (Princess of Wales), Hedd Wyn, Iolo Morganwg, Jemeima Niclas, Merched Beca, Owain Glyndwr, Twm Si?n Cati, W. H. Davies, William Williams and the Chartists. Written…

1 in stock

SKU: 9781784615475 Category: Tag: Brand:

Description

Drwy addysg neu farddoniaeth, drwy godi llais neu godi cleddyf, mae’r amrywiaeth o arweinwyr yn y llyfryn bach hwn yn dangos gwerth gwneud safiad, gan sefyll yn gefnsyth a dewr a mynnu hawliau.
Yn ?l Jon ei hun: “Gallai’r rhestr o arwyr fod wedi bod dipyn yn hirach, a gallwn fod wedi ychwanegu enwau newydd o hyd, ond gobeithio y bydd y detholiad yma o 13 arwr, neu fudiadau arwrol, yn profi bod hanes gwlad fach fel Cymru yn llawn arwyr dewr a thalentog sy’n fodlon herio’r drefn a mynnu dyfodol gwell.”
Cyhoeddwr: Y Lolfa

Mae cyfres Stori Sydyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac wrth ddarllen y gyfrol hon, mae hi’n hawdd deall pam. Cyfrol yw hi sy’n olrhain hanes ein harwyr cenedlaethol ac mae’r awdur yn gwneud hynny mewn ffordd fachog a difyr sy’n rhoi digon o gig ar yr esgyrn i greu portreadau bywiog a lliwgar o’r unigolion dan ei sylw. Mawredd arddull Jon yw ei fod yn medru tynnu ar ei wybodaeth eang o hanes gan wau straeon a manylion difyr yn ddidrafferth gan wneud hi’n gyfrol hynod o hawdd i’w darllen. Petai rhywun yn dod ar draws yr hanesion yma am y tro cynta, fyddai’r gyfrol hon yn siwr o’u tynnu ymlaen i ddarllen ymhellach, ond mae yna ddigon o fanylion diddorol i ddiddanu’r rheini sy’n credu eu bod yn hyddysg yn yr hanes yn barod hefyd. Cawn hanes Betsi Cadwaladr, Dic Penderyn, Hedd Wyn a Jemima Niclas yn ogystal ? grwpiau fel Merched Beca a’r Siartwyr – yr holl fawrion sy’n rhan annatod o’r seici Cymreig. Roeddwn innau wedi anghofio am berthynas anodd Betsi Cadwaladr gyda Florence Nightingale, cefais fy synnu unwaith eto gan gryfder Gwenll?an a chefais bleser yn darllen hanes William Williams Pantycelyn. Mor hawdd ydyw i gymryd y mawrion yma’n ganiataol, gan anghofio eu bod yn bobol o gig a gwaed. Mae Jon nid yn unig yn llwyddo i ddarlunio’r cymeriadau unigol yma ond hefyd yn llwyddo i gynnig cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol iddynt, gan ein galluogi i ddeall beth yn union oedd eu mawredd yn eu hamser eu hunain a hefyd pam fod eu henwau yn dal ar gof a chadw heddiw. Byddai hon yn gyfrol arbennig o ddefnyddiol mewn ysgolion a dydy’r darllen ddim yn oracademaidd o gwbwl! I’r gwrthwyneb, mae hi’n gyfrol ysgafn ddiddorol fyddai’n addas i’w darllen ar dr?n neu awyren hefyd. Ar ?l gorffen darllen, fe deimlais ryw falchder tawel yn y ffaith mai’r rhain ydyw ein harwyr cenedlaethol, sef awduron, beirdd, nyrsys ac athrawon; pobol yn y b?n, oedd yn ymgeisio am garedigrwydd, am degwch ac am gydraddoldeb. Mae’r gyfrol hon, fel Cymru ei hun, yn ein hatgoffa nad maint yw popeth! Efallai fod Cymru yn wlad fach, ond mae ei harwyr yn rhai sylweddol, ac er bod y gyfrol yma’n edrych yn bitw, mae ei gwerth hithau yn fawr hefyd.
Caryl Lewis @ www.gwales.com

Additional information

Weight 116 g

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Stori Sydyn: Arwyr Cymru”

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Add to basket