Description
Cyfrol ffeithiol gynhwysfawr sy'n esbonio'r hanes tu ?l i rai o'n traddodiadau Dydd Gwyl Dewi enwocaf, cyn edrych yn agosach ar y ffyrdd y caiff y dydd ei ddathlu heddiw. Lluniau lliwgar, straeon difyr.
Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Cyfrol dwt a defnyddiol sy’n olrhain dechreuadau a dathliadau Gwyl Ddewi ar hyd yr oesoedd, yn ogystal ?’n hatgoffa o rai o’r digwyddiadau pwysicaf sy’n gysylltiedig ? Mawrth y cyntaf a Chymreictod, hyd at heddiw.
O ran maint, mae’r gyfrol yn hynod o hylaw. Mae ei strwythur a’i phenodau byrion a chryno’n ei gwneud hi’n hawdd i bicio i mewn ac allan ohoni fel bod amser yn caniat?u, oherwydd, fel y mwyafrif o gyfrolau o’r math yma, mae’n annhebygol y byddai rhywun yn dewis ei darllen o glawr i glawr ar un eisteddiad. Mewn gwirionedd, mae’n rhyfeddol faint o straeon a gwybodaeth mae’r gyfrol yn llwyddo i’w cyflwyno, o hanes yr eglwysi a dechrau’r dathlu, i’r wasg Gymraeg a’r Urdd, yr arwisgo, ysgolion, dathliadau’r Cymry ar wasgar, gorymdeithiau a hyd yn oed gystadleuaeth C?n i Gymru! Mae yma ?l ymchwil manwl, ond oherwydd y modd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno, nid yw’r testun yn llethu’r darllenydd o gwbl.
Ac mae yma farddoniaeth hefyd, yn cynnwys cerddi traddodiadol a ymddangosodd yn Cymru’r Plant yn y 1930au i gerddi mwy diweddar Gruffudd Owen, Beryl Griffiths a Nia Powell, sy’n rhoi amrywiaeth a chydbwysedd braf i’r gyfrol.
Gall fflicio’n sydyn drwyddi’n edrych ar y lluniau fod yn brofiad difyr – gyda chyfuniad o ffotograffau du a gwyn hanesyddol cymharol ffurfiol, ochr yn ochr ? chartwnau a ffotograffau lliw llawn mwy modern ac anffurfiol sy’n crynhoi holl ysbryd a bwrlwm Gwyl Ddewi, o’r eisteddfodau a’r gorymdeithiau i’r gwisgoedd a’r dathliadau hwyliog. All rhai o’r hen ffotograffau ddim peidio ? chodi gw?n, yn enwedig y lluniau hynny o wisgoedd traddodiadol. Yn sicr, o’m safbwynt i, bydd y llun o’r ferch fach o un o gymoedd Morgannwg yn y 1930au yn ei gwisg Gymreig hi’n aros yn y cof yn hir. Ac mae yna nifer o ffotograffau eraill sy’n corddi’r un math o emosiwn, gan danlinellu cymaint ry’n ni fel Cymry wedi esblygu dros y blynyddoedd, a throi ein gwyl yn ddathliad cadarnhaol sy’n adlewyrchiad o’n hyder fel cenedl.
Heb os, dyma gyfrol i’w mwynhau a’i thrysori. Dyma gyfrol hefyd i’n hatgoffa mewn ffordd syml iawn o bwysigrwydd ein treftadaeth a’n Cymreictod, ac ailennyn balchder yn ein hanes a’n traddodiadau unigryw ni fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.
Sioned Lleinau @ www.gwales.com






Reviews
There are no reviews yet.