Description
Author Jones, Richard Wyn Published by Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9781837723843 EAN 9781837723843 Bic Code JPL|JPF Cover Paperback
£19.99
Yn y gyfrol arloesol hon mae Richard Wyn Jones yn olrhain datblygiad syniadaethol Plaid Cymru o’i geni ym misoedd gaeaf 1924-5 hyd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn haf 1999. Trwy gyfrwng astudiaeth wreiddiol a heriol o gredoau gwleidyddol ei harweinwyr pwysicaf – Saunders Lewis, Gwynfor Evans a’r ddau Ddafydd, Dafydd Elis-Thomas a Dafydd Wigley – cawn ddilyn ymdaith y Blaid o gyrion y llwyfan gwleidyddol hyd at drothwy’r Gymru ddatganoledig. Rhoddir sylw arbennig i’r datblygiadau a welwyd ym mholisïau cyfansoddiadol ac economaidd y Blaid, yn ogystal ag yn ei safbwynt tuag at yr iaith Gymraeg. Seilir y gyfrol ar drafodaeth awdurdodol ar natur cenedlaetholdeb a syniadau cenedlaetholgar, trafodaeth sy’n ein galluogi i ddeall datblygiad syniadaethol Plaid Cymru oddi mewn i gyddestun hanesyddol a rhyngwladol ehangach. Dyma lyfr sy’n bwrw goleuni newydd, dadlennol a dadleuol ar Blaid Cymru.
1 in stock
Author Jones, Richard Wyn Published by Gwasg Prifysgol Cymru ISBN 9781837723843 EAN 9781837723843 Bic Code JPL|JPF Cover Paperback
Reviews
There are no reviews yet.